Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

dragywydd, ddïystyru dychrynfầu angeu a'r bêdd. Buddugoliaeth ein Hiachawdwr, a fydd yn fuddugoliaeth i ninnau. Ei orfoledd Ef fydd yn orfoledd i ninnau. Er i bechaduriaid cyndyn, diffydd ac anedifeiriol, wrth rag-olygu ar angeu, ddirfawr ddychrynu; er iddynt ofni a cheisio ffoi gyd â dychryn rhag y pwll tywyll diwaelod: etto ni ddichon y gwir-gristianogion fod mor ddychrynedig. Er destrywio y corph marwol hwn; etto ni ddichon hynny ddinystrio 'r enaid anfarwol sy 'n cartrefu ynddo. Er i angeu rwygo oddi wrthym ein perthynasau a'n cyfeillion duwiol caredig; etto ni ddichon efe byth mo'u cadw hwy oddi wrthym ni. Er i gymmylau a thywyllwch du-dew guddio 'r byd gweledig hwn o'n golwg; etto yr yspryd anfarwol a uchelhêd uwch-law 'r cysgodolion yma, at oleuni, lle y mae'r goleuadau a'r sêr yn aneglur ac yn dywyll. Er ymegor o'r bêdd dan ein traed; etto hynny a ddigwydd, yn unig, y pryd a'r amser, y mah a'r lle, y gwelo Creawdwr ein cyrph yn dda: a'r llwch yma ein cyrph meirw a fywhêir drachefn i gael harddwch a phrydferthwch adnewyddedig, a gallu a gogoniant diddarfodadwy. Y gobaith hwn, na byddwn marw yn dragywydd, y cawn ni fywyd annherfynol, a dedwyddwch tragywyddol, a ddyrchafo ein meddyliau, a buro ein calonnau, a berffeithio

ein boddlonrwydd, a wnelo bob dyledswydd yn hyfryd i ni, a wnelo i ni fod yn foddlongar ym mhob cyflwr, ac yn amyneddgar ym mhob adfyd, ac a gyfaddaso, hyd yn oed, angeu ei hun yn rhag-flaenor tangnefedd i ni. Amen.

PREGETH VI.

AR ANFARWOLDEB.

JOAN xi. 25, 26.

Myfi yw yr adgyfodiad, a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd.

I am the resurrection and the life: he that believeth in me, though he were dead, yet shall he live: and whosoever liveth and believeth in me, shall never die.

MOR gynnwysfawr, arswydus a buddiol yw'r.

testun hwn, na bydd y sawl sy 'n credu yng Nghrist, marw yn dragywydd! Mor gysurusragorol ydyw 'r gobaith, y gallwn gael bywyd dedwydd anfarwol, y peth gwerthfawroccaf a'r a eill ein naturiaeth ni fwynhâu!-Ac os ydyw gŵyl adgyfodiad Jesu oddi wrth y meirw yn fath ŵyl, ag y sy 'n dangos, na byddwn marw yn

dragywydd; os ydyw Efe yn byw yn y Nefoedd, gyd â'i Dad; os ydyw hynny yn wystl y gallwn ninnau gael myned yno: os diammheuadwy ydyw yr adgyfyd ein cyrph ni, fel yr adgyfododd ei gorph Ef: os ydyw ei ddyrchafiad Ef yn rhoddi sicrwydd i ni, y gallwn gael bywyd dedwydd anfarwol o ad-daledigaeth, yr hwn sydd etto yn ôl i ni yn y byd a ddaw, wrth hynny rhaid i'r dydd heddyw, argraffu 'r testun hwn a'i holl obaith hefyd a'i ofnau, yn dra dwfn ar ein calonnau ni,

Yn wir, Crist yw yr adgyfodiad a'r bywyd; Efe a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy ei Efengyl! Efe a ddifreiniodd angeu o'i ddychrynfâu, a'r bêdd hefyd o'i ymddangosiad brawychus! Efe a eglurhäodd, tu hwnt i bob ammheuaeth, yr athrawiaeth effeithiol, na byddwn marw yn dragywydd, ac y gallwn gael bywyd dedwydd anfarwol o ad-daledigaeth: Yn awr nid dïobaith ymbiliad y rhai truenus ydyw hynny mwyach nid ammheüus a dyrus ymofyniad y dysgedigion ydyw mwyach: nid tywyll dybiad y doethion ydyw mwyach: ond gwirionedd amlwg ydyw a gadarnhawyd gan Grist ei hun: Gwirionedd ydyw ag sy 'n gweithio yn effeithiol ar Obaith ac ofnau miloedd o ddynion: gwirionedd ydyw ag sy'n anwahanadwy yn perthyn i holl iawn-drefn meddwl a dwys-ystyriaeth y gwir

gristion; yr hwn y mae ei feddwl yn ei ddal yn egwyddor-bwngc, a'r hwn y mae ei galon yn ei deimlo yn ei goruch-rëoli; yr hwn, ysgatfydd, yn wir a ellir ei ammhau, ond nis gellir byth mo'i ddiddymmu; a'r hwn y dichon y dysgedigion a'r annysgedigion, y cyfoethogion a'r tlodion, heb ofni gormodedd, gael byth fedi ffrwyth daioni, diddanwch, a doethineb, oddi wrtho.-Pe na baem ni, pe na bai 'r holl fyd yn rhwymedig i'n Hiachawdwr Crist, am ddim mwy na'r gobaith a'r diddanwch yma, pa fodd y gallwn ni fod yn ddigon diolchgar ! Ac a ydym ni yn gwbl-gyflawn yn amgyffred holl werthfawrogrwydd yr uchel-fraint hon? A ydym ni yn gwbl-gyflawn yn dirnad y dedwyddwch, yr hwn y mae Efe yn ei gynnyg ni? A ydym ni yn iawn-deimlo mawr effaith yr athrawiaeth hon, na byddwn marw yn dragywydd, ac y gallwn ni gael bywyd dedwydd anfarwol o ad-daledigaeth?

yn

i

Y mae'r athrawiaeth hon, na byddwn marw yn dragywydd, yn effeithiol i'n meddyliau:effeithiol i'n calonnau:-yn effeithiol megis y mae 'n perthyn i'n hymddygiad :—yn effeithiol megis y mae 'n cyfeirio i roddi i ni foddlonrwydd a hyfrydwch :-yn effeithiol mewn gofidiau poenus:ac yn effeithiol ar awr angeu.

1. Mor effeithiol, mor gynhyrfiol ydyw 'r

« ZurückWeiter »