Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

2

cyfodi ac yn byw, yn symmud ac yn bod! Pa ronym o lwch, pa fymryn o fywyd, a ddichon fod, a'r na wêl yr Holl-wybodol Dduw? Pa allu crëedig a ddichon wrthsefyll creawl allu yr Hollalluog? Pa greadur, a'r sy'n gymmwys i'w adnewyddu, ac sy 'n sychedu am fwy perffeithrwydd, nad eill gael yfed o'r ffynnon annyhyspyddadwy hon o fywyd? Duw a ordeiniodd ei Fab ei hun, i fod yn adgyfodiad ac yn fywyd. Pwy bynnag sydd yn credu ynddo Ef, ni bydd marw yn dragywydd, Gyd ag awdurdod anwrthwynebadwy y gwna ei leferydd Ef dreiddio 'r bêddau, a'r holl fêddau a ymegorant iddo Ef, yr hwn y mae agoriadau 'r bywyd a marwolaeth ganddo; pan orchymyno Efe, y dyfnder a rŷdd i fynu y meirw sydd ynddo; a llwch y meirw a ddeffry i gael bywyd annherfynol. Efe a fu farw, ac a adgyfododd, fel y teyrnasai ar y meirw a'r byw hefyd, Efe a goncwerodd y concwerwr, ac a ddinystriodd y dinystriwr, fel na chollai 'r un o'r holl rai a roddes ei Dâd iddo Ef. "I Dduw y byddo 'r dïolch, roddi," o hono "i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Jesu "Grist."

[ocr errors]

Er mor ddychrynadwy ydyw llywodraeth angeu; etto, wrth ei chymmharu ag annherfynol lywodraeth y bywyd, mor ddiflannadwy a byrred

ydyw Wrth ei chymmharu ag oesoedd Tragyw-' yddoldeb, nid ydyw ond megis parhâd munadyn. Er gorwedd o'r corph dros oesau yn eigion y ddaear; etto nid oes dim cymmhariaeth yn yr oesau hynny, â Thragywyddoldeb y bywyd a adnewyddir, lle na bydd na marwolaeth, na gofid, na gwaedd, nac unrhyw boen ychwaith mwyach Er arglwyddiaethu o hîr noswaith y bêdd arnom ni mewn distawrwydd trist, a thywyllwch annhreiddiadwy; etto, pa beth ydyw hynny, wrth oleu wawr y dydd hwnnw, a gyfyd, fel na fachlud mwyach! Er parhâu o gwsg angeu dros oesau, pa beth ydyw hynny, os deffrown y diwrnod hwnnw, wedi ein hadfywhâu a'n hadlonni i fwynhau llawenydd a bery yn dragywydd! -O! mor fuan yr anghofir y parhâd byr hwnnw, yn ehang ardaloedd Tragywyddoldeb, lle y mae gorfoledd annhraethadwy,a bywyd annherfynnol Daw diwedd ar orfoledd angeu; ac er bod buddugoliaeth uffern, fef, y bêdd, yn noswaith dymmhestlog; etto hi a dderfydd ac a ddiflanna, fel y gwawrio 'r dydd buddugoliaethol, gorfoleddus, ac annherfynol hwnnw, pan anghofir angeu a'r bêdd yn dragywydd, ac na welir dim tebygolrwydd am ddarfodedigaeth, na llygredigaeth mwyach !

Mor odidog-ragorol yw 'r fuddugoliaeth hon

ar angeu, yr hon a sicr-gadarnhâwyd ac a seliwyd trwy adgyfodiad ein Hiachawdwr Jesu Grist! Y mae angeu yn llâdd; ond y mae bywyd yn adfywhâu. Os ydyw canlyniadau angeu mor ddychrynadwy, er hynny, gan orchfygu, hwy a orchfygir, trwy odidog-ragorol allu y bywyd. Os ydyw angeu yn gorfoleddu uwch-ben y tywyllwch a'r dychrynfâu a daeną o'i amgylch; er hynny bywyd a gyfyd yn fwy gorfoleddus yng ngallu y goleuni hwnnw, ac ym muddugoliaeth y llawenydd hwnnw, yr hwn yn dragywydd a wasgara'r cymmylau a'r dychrynfâu hynny. Yno gwahanedig berthynasau a chyfeillion caredig duwiol a ymgyfarfyddant drachefn, fel na ymadawont mwyach, ac fel na byddont yn ddarostyngedig i gyfnewidiau na damweiniau mwyach: fe gaiff y fam gofleidio ei phlant drachefn, a'r ymddifaid eu tâd. Yno pob cynnedd frinweddol a ddangosir, pob bwriad da a ddatguddir, pob dymuniad cywir a gyflawnir, a phob tristwch a droir yn llawenydd. Yno y coronir y rhai daionus a dïystyrwyd, â'u huchel-freintiau; a'r rhai duwiol a enllibiwyd, a wawdiwyd, ac a ddibrisiwyd, â'u gwobrwy. Yno y caiff pawb fedi yn dra helaeth yr hyn a hauasent mewn gobaith cant fedi pob mymryn o'r hyfrydwch a fwynhasent, wrth fod yn bur ac yn ddiragrith: ac yna y cant y fath lawenydd a dedwyddwch

1

annrhaethadwy, ag na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn ychwaith! Wrth hynny, beth ydyw gorfoledd angeu, neu fuddugoliaeth uffern, sef, y bedd! Y maent hwy, fel pe baent, yn dinystrio ein heinioes a'n dedwyddwch yn y byd hwn: Y mae diddymmiant a thrueni, fel pe baent, yn dilyn eu camrau; er hynny, y maent hwy yn ein tywys ni, trwy'r llwybrau tywyll anhyfryd yma, i oleuni annhraethadwy a gwynfydedigrwydd perffaith-gyflawn. Ofer ydyw eu buddugoliaeth; eu dychrynfâu a ddiddymmir; eu gallu a ddinystrir, a'r gwir-gristion ni ddychrynir gan eu golygon ofnadwy mwyach.

Llewyrched y gobaith bywiol cysurus hwn ar bob un o honom ni, a daliwn afael dïogel a sicr arno, bob amser, ym mhob cyflwr, ym mhob blinder, ym mhob dychryn, ac ym mhob cyfyngder, a'r a ddigwyddo i ni, tra byddom yn y byd tywyll gofidus hwn, yn teithio ein taith i Dragywyddoldeb yn treulio dyddiau 'r fuchedd farwol hon i fyned i fuchedd anfarwol-Yn rhedeg yr yrfa fer hon i fyned i fywyd annherfynolyn rhodio glyn cyfyng cysgod angeu i fyned i ehangder y byd a bery byth, yr hwn ni fachlud haul byth arno. Y mae 'r gobaith bywiol cysurus hwn yn rhoddi gwerthfawrogrwydd gwahanol

ar ein bywyd, a drych gwahanol ar angeu. Ni ddichon yr hyn sydd, fod yn anfuddiol, nac yn orthrwm, nac yn ddychrynadwy ychwaith i'r doeth a'r gwir-gristion. Nid oes dim dychrynfâu i hwnnw gan dydd yr Arglwydd: geill hwnnw barhâu edrych yn ddigyffro ar yr olygfa fygythiadwy nid gwaith pethau deillion cydgymmysgedig, na damwain ddïfwriad ychwaith, fydd hynny pan ysgydwer nerthoedd y nefoedd, a phan doddo 'r defnyddiau gan wir wres, a phan losger y ddaear a'r gwaith a fyddo ynddi, Doethineb tragywyddol a lywodraetha hynny : Y tân cyffredinol, y dydd diweddaf, a lysg y byd yn y modd y gorchymyno Efe. Ас ym mhob terfysg a chynnhwrf a'r a ddigwyddo, fe bery Duw yn breswylfa i'r cyfiawn. Gan hynny, clodforwn a diolchwn i'r Hwn a'n hadfywhâ ni, sef, ein Duw a'n Hiachawdwr Jesu Grist. Efe a fu farw, fel y gallem ni fyw. Efe a ynnillodd y fuddugoliaeth ar uffern, sef, y bedd, ac a orchfygodd angeu, a thrwyddo Ef y gwisg ein llygredigaeth ni anllygredigaeth. Efe yw ein Tywysog a'n Rhag-flaenor ni, dilynwn Ef. Adnewydwn ein haddunedau bob cyfleusdra a'r a gaffom, ac ymrown i gadw 'r addunedau hynny; yna y rhedwn yn wrol yr yrfa a osodwyd o'n blaen; ac y gallwn, gan edrych ar berffeithiad ein ffydd, a chan hyderu, na byddwn marw yn

« ZurückWeiter »