Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

i'w ochelyd mor anfuddiol ydyw ymdrechiadau naturiol i'w wrthsefyll! Yma ni ddichon nac ieuengctyd na chyflawnder oedran, na mawredd nac awdurdod, na daioni na theilyngdod ychwaith, roddi diogelwch. Pan ddelo angeu, nerthoedd galluoccaf dyn a enciliant yn ddychrynedig; a'i freintiau godidoccaf a ddiflannant; ac ni bydd pob anturiad i'w wrthwynebu, ond yn unig yn rhagor o brawf o'i wendid.

Mor ddychrynadwy hefyd fydd yr hyn a wna angeu, a'r canlyniad gweledig o hynny! Wrth weled yr hyn a wna efe, pwy sydd a'r na ddychryna?-Efe a wna i alluoedd y bywyd hwn yn raddol ddarfod, ac a'n gwna ni, fel nas gallom ymsymmud; yna y canlyn tywyllwch oll-gyffredinol, noswaith hîr, oerni, merwindod, ymadawiad â'r holl fyd gweledig, y bêdd, llygredigaeth, ac ymddattodiad: Gwelwch, dyna ei fuddugoliaeth ef! Heb law amgylchiadau'r Olygfa arswydus hon, ystyriwch y gofidiau poenus a flinant y sawl a fyddo mron marw-y gobaith am fyw yn hwy, a rŷdd efe i fynu mor anewyllysgar -y perthynasau caredig a ommeddant ymadael -edliwiau cydwybod a'r ofnau fyned i fyd anadnabyddus-Onid ydyw buddugoliaeth angeu yn ddychrynadwy ?Mor ehang a helaeth yw ei ddifrodiadau, ac mor ddirfawr ydyw achosion gwylofain Mor anfeddyginaethol ydyw briw

'r wraig weddw a'r plant ymddifaid, ac mor anesgorol yw 'r golledd am amddiffynol allu eu tâd! Yma llawer iawn o rag-fwriadau ac amcanion rhesymmol a wna efe yn ddilês; yna y gorchyfyga efe y galluoedd mwyaf, er cadarned fyddont, ac a rwystra 'r doniau gobeithiolaf ymddangos. Yma ni chaiff y rhai llafurus ganddo ef mo feddiannu ffrwythau eu llafur: ac yna y deifia efe flagur y gweithredoedd godidog, pan ymddangosont gyntaf. Yma, mewn llawer iawn o ffyrdd, y destrywia efe bleserau, hyfrydwch, llawenydd, a gobaith dynion: Yna y gwna efe i ni ganfod achosion amrywiol ac anghynnefinol o dlodi, o ofid a thrueni. Yma y wraig weddw, a'r plant ymddifaid, a eisteddant, â dagrau ar eu gruddiau: Yna y rhai gofidus a'r anghen us a gwynant, o herwydd iddynt golli eu hewyllyswyr da, a'u cymmwynaswyr. -Felly dychrynllyd ac anhyfryd ydyw 'r hyn a wna angeu Felly arswydus yw ei ymddangosiad, a gwylofus ydyw 'r hyn a ganlyn ei rwysg dinystriol! Felly ofnadwy ydyw ei fuddugoliaeth ef, ar yr holl rai ag sydd yn fyw, ac yn perchen anadl! Yn y dull dychrynllyd hwn, y rhaid i rhaid i angeu ymddangos i bob un, pan ystyrio felly yr hyn a wna efe, a'r hyn yn ddïattreg a ganlyn hynny, os na wna rag-olygu ar fyd arall sydd well, y diwrnod hwnnw, pan farno Duw y byd mewn Cyfiawnder.

Ond y diwrnod hwnnw, angeu a lyngcir mewn buddugoliaeth-mewn buddugoliaeth ein hadgyfodiad uwch-ben buddugoliaeth uffern, sef, y bêdd. Er bod ei lywodraeth ef yn ollgyffredinol; ac er ei bod yn cyrraedd dros y fuchedd farwol ddarfodedig hon; etto, onid ydyw llywodraeth y bywyd yn llawer mwy ehang a helaeth, ac yn cyrraedd dros y cwbl-oll a'r a fu, ac y sydd, ac a fydd? Nid oes dim, gan 'ddarfod, yn llwyr-ddarfod; nid oes dim, gan farw, yn marw yn dragywydd. Nid oes dim yn darfod, a'r na adfywhêir; na dim yn marw, a'r na bydd byw drachefn. Hyd yn oed, y pethau tyfadwy yn y byd hwn, blaen-dardd a darparolion ydyw angeu a llygredigaeth, iddynt hwy ymddangos drachefn, mewn newydd wêdd, eu bod yn fyw. Oni bydd yr hedyn marw, ni ddichon efe na blaguro, na blodeuo, na dwyn ffrwyth ychwaith. Os y gwna 'r gaiaf a'i oerni rewi a destrywio; er hynny y gwanwyn hyfryd drachefn a adfywhâ y cwbl oll, gyd â gwychder a phrydferthwch adnewyddedig. Gan hynny, cr gorchuddio 'r ddaear â bêddau, a phentyrru 'r meirw ar y meirw; etto, ychwanegiad hauad ydyw hynny, erbyn y cynhauaf cyffredinol a fydd: a pho mwyaf cyfoethog a fyddo 'r hauad, mwyaf cyfoethog a gogoneddus fydd y cynhauaf hwnnw. Yn ehang a helaeth faes Duw, ein Tâd nefol, ni heuir dim,

[ocr errors]

a'r na thyr allan, ac a'r na flodeua, yn fwy prydferth a pherffaith. Ond yn hytrach, heb lw golygu ar adfywhâd yma yr holl bethau a fuont yn feirw, er bod llywodraeth angeu mewn ymddangosiad mor oll-gyffrediuol; etto nid ydyw felly mewu gwir-hanfodoledd. Nac ydyw, yn

unig llwch, yn unig yr hyn a grewyd o'r llwch, yn unig gweledig, amlwg, a daearol blisgyn y creaduriaid byw ac ysprydol, sydd yn ddarostyngedig i'w allu dinystriol. Nis gellir dinystrio 'r gallu y cedwir hwynt yn fyw trwyddo; yr yspryd sydd yn preswylio ynddynt hwy, nid oes iddo ef un rhyw angeu i'w ofni, nac un rhyw ymddattodiad na llygredigaeth ychwaith i'w arswydo. Y mae efe yn meddwl, yn gweithredu, ac yn byw, ïe, yn ei drym-lwythog wisg o glai: ac efe a feddwl, a weithreda, ac a fydd byw, gyd â mwy o rŷdd-did a gallu, pan ddinystrier y plisgyn hwn, ac y gollynger y carcharor sydd ynddo yn rhŷdd. Yn unig y llwch a ddychwel i'r ddaear, yr yspryd a esgyn at Dduw, gan mai ei anadliad a'i ddelw Ef ydyw; gan ei fod yn awr yn perthyn iddo, yn cael cymdeithas gyd ag Ef, wedi ei arfaethu i ddyfod yn nês atto, a mwynhâu cymdeithas mwy hyfryd gyd ag Ef. "O angeu, pa "le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy "fuddugoliaeth?" Mor derfynedig yw dy allu! mor ffugiol yw dy fuddugoliaeth! Tydi a ddinystriaist y corph o glai, ond yr enaid, a oedd yn

trigo ynddo, a gyfododd i fynu uwch-ben, er ei ddinystrio, yn ddifriw. Yr yspryd anfarwol, nis gallesit mo'i garcharu yn y bêdd anhyfryd tywyll, na'i rwymo yn rhwymau llygredigaeth ychwaith; y mae efe yn uchel-hedeg at ei Gieawdwr Hollalluog, ac y mae efe yn fyw ac yn gorfoleddu mewn goleuni a bery yn dragywydd.

A ydyw gallu angeu yn anwrthwynebol? A ydyw ei biccellau yn ofnadwy? Ond mwy ydyw gallu Duw, yr hwn sy 'n gorchfygu y gorchfygwr; yr hwn sy 'n gorchymyn i'r llygradwy wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol wisgo anfarwoldeb. Nid oes dim yn ammhossibl i gadarn

nerthol fraich yr Hollalluog. Y mae'r ffynnon dragywyddol, annyhyspyddadwy honno ein bywyd 'a'n symmudiad, a'n bod, yn dwyn goleuni allan o dywyllwch; ac yn eglurhâu pob anghyfaddasrwydd y naill beth i'r llall; ac yn dra doeth yn iawn-drefnu pob peth a'r a fyddont yn gydgymmysgedig â'u gilydd, er dirgeled fyddo. hynny; ac ni ddichon un amser. fwriadu un rhyw ddrwg, a'r a fydd, yn ddïammodol ac yn dragywyddol, yn ddrwg. Gallu y Creawdwr, yr hwn sy 'n galw yr hyn, nid ydyw, megis pe. bai; a'r hwn, y mae 'r Nefoedd a'r ddaear, y goleuadau a'r bydoedd, a holl anneiriflu eu trigolion, dienaid ac eneidiol, wrth ei ewyllys Ef, yn.

« ZurückWeiter »