Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

1

Dwyrain, ddysgu i ni ddirymmu gallu, a throi ymaith gynddaredd y gofidiau, y rhai na allwn mo'u lluddias. Yn ei holl ofidiau a'i flinderau, efe a sicrhâodd iddo ei hun un cysur mwy a gwell, na'r cwbl-oll a'r a eill y byd hwn roddisef, yr adfyfyriaeth-ïe, yr adfyfyriaeth gysurus, iddo yn bur o'i galon ufuddhâu i Dduw-iddo yn gyson ac yn effeithiol wneuthur ei gydgreaduriaid yn fwy-fwy daionus, ac yn fwy-fwy dedwydd ei fod ef yn ŵr perffaith ac uniawn, "ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni." "Pan y'm clywai clust," (pa orfoledd teimladwy!) hi a'm bendithiai; a phan y'm ym gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyd â mi: "am fy mod yn gwaredu 'r tlawd a fyddai yn gwaeddi, a'r ymddifad, a'r hwn ni byddai cynnorthwy-ŵr iddo. Bendith yr hwn oedd ar "ddarfod am dano, a ddeuai arnaf; a gwnawn "i galon y wraig weddw lawenychu. Llygaid "oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff."

[ocr errors]
[ocr errors]

66

AMEN.

PREGETH IV.

AR DDYDD Y FARN.

ACT. XVII. 31.

O herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna Efe y byd mewn Cyfiawnder.

Because he hath appointed a day, in the which He will judge the World in Righteousness.

Os S sicr a dïammheuol ydyw, y rhaid i ni feirw; ac os ydym, wedi hynny, yn disgwyl, y cawn ni ein barnu, pa ham y mae dynion mor fynych, trwy eu hannifrifwch a'u hanystyriaeth, yn dïystyru, pa mor sicr ydyw y daw angeu; a thrwy eu llygredd a'u halogrwydd, yn ymddangos yn wrthwynebol i'w hargyhoeddiad, y daw dydd. barn? Os ydyw anghroesawus ddisgwyliad y dydd hwnnw yn fynych yn blino ac yn dychrynu y rhai drygionus, yn eu holl ffyrdd annuwiol; Os ydyw y rhai daionus, wrth y fyfyriaeth fraw-. ychus, yn dirfawr arswydo; os ydyw dynion,

wrth naturiaeth, yn crynu wrth neshâu at y terfyn a ofnant, ac na wyddant, pa fodd i'w ochelyd; pa reswm a allwn roddi, o herwydd fod dynion, mor gyndyn ac anufudd, yn gommedd ymbarottoi erbyn y delo ?

Teithio yr ydym, o'r funud gyntaf o'n heinioes, yn raddol, tu a'i diwedd; gan addfedu yn unig i ddarfod; gan brysuro at y munudyn, a arswydwn fwyaf; a chan ymadael â'r meddiannau yr ym yn dra awyddus i'w dïogelu. Cael gwybodaeth a doethineb yr ydym: ond nyni yn fuan a'u claddwn yn nistawrwydd y bêdd, lle y bydd yr hyn oll a feddo dyn o'r byd hwn yn ddifudd. Llafurio am gyfoeth a meddiannau yr ydym: ond nyni, yn fuan, a ymadawn â'r hyn oll a feddom, ac a ddychwelwn yn noethion o'r byd, fel y daethom iddo. Ymdrechu yr ydym i gael yr hyn na ddichon dim llafur mo'i ddiogelu; ac arganlyn yr ydym yr hyn, pan ei caffom, y rhaid i ni, yn fuan, ei adael ar ein hôl:

Megis nad oes un peth yn fwy pwysfawr i ddyn, na 'r cyflwr a fydd ar ôl ymddattodiad y corph; felly nid oes un peth a weithiodd yn fwy ar ei alluoedd ymofyngar. Yr ewyllys sydd, wrth naturiaeth, gan ddynion i fyw, a gynnhyrfodd y rhai annysgediccafi ddisgwyl, a'r dysgediccaf i obeithio, fod gwreichionen an

farwol, yr hon a fydd byw ar ôl dinystrio 'r corph; ac "os ein daearol dŷ a ddattodir, fod "i ni adeilad gan Dduw."-Sef, tŷ nid o waith "Ilaw, tragywyddol yn y Nefoedd." Os maeth wyd y gobaith am gael bywyd anfarwol gan yr annysgediccaf, cystal a chan y dysgediccaf; os, ym mhob oes a grâdd o ddynion, y cynnaliodd y disgwyliad am dragywyddoldeb, obaith y rhai oeddynt ar ymollwng; ac os cynhyrfodd gwobrwyon a chospedigaethau 'r farn ddisgwyliedig, ddynion, i fod yn fwy-fwy daionus; ac os y gwnaethant eu deffroi, i fod yn fwy-fwy ofnus; os addysgodd argyhoeddiadau 'r meddwl diniweid nyni i rag-weled, mor anghenrheidol ydyw 'r ad-daledigaeth gyfiawn yma, i unioni llïosog gamweddau 'r fuchedd bresennol, ac i ddiwallu ei diffygion amlwg llïosog-pa ham y mae 'r fath ddisgwyliadau cedyrn, os nad ydyw 'r dydd hwnnw byth i fod? A gynnysgaeddodd Duw ni â galluoedd i roddi cyfrif am ein hymddygiad; ac a wna Efe ddim gofyn cyfrif gennym ni? A wnaeth efe nyni yn wybodol o'r gwahaniaeth y sydd rhwng cam ac uniawn, rhwng da a drwg, rhwng gwir a chelwydd, ac oni raid i ni roddi cyfrif iddo Ef, pa ddefnydd a wnaethom o'r fath wybodaeth? A greodd Efe nyni yn gymmwys i ddeall y perthynasau sydd rhwng dyn a'i Greawdwr, a rhwng y naill ddyn â'r llall; gyd â gallu i ddewis yr hyn sydd dda, a gwrthod yr

E

hyn sydd ddrwg; a chyd â lleferydd tirion cydwybod yn ein gwahodd i ddilyn daioni, ac yn ein rhwystro i wneuthur drygioni, a wneir dim gofyn, a wnaethom ni wrando ar ei hyfforddiadau ? A ddichon Duw, yr hwn sy'n llywodraethu 'r holl fyd, fod yn Oruch-olygydd dïofal ar waith ei ddwylaw ei hun? A ddichon Efe, yr hwn y mae 'r drefn a'r cyssondeb prydferthaf yn goruch-rëoli yn ei Greadigaeth Ef, esgeuluso barnu camweddau ein buchedd ni, y beiau dinystriolaf a'r ffieiddiaf o'r cwbl-oll? A ddichon pob peth fod dan ei Rag-luniaeth a'iOruch-olygiad Ef, a bod dyn yn unig, ei waith godidoccaf, yr hwn a uchel-freiniwyd â rheswm ac â rhydddid, wedi ei adael iddo ei hun, ac na raid iddo ef, er annuwioled fyddo rhuthriadau ei ynfydrwydd, ddim rhoddi cyfrïf am ei fucheddiad i'w Greawdwr ac i'w Farnwr? A wnaethoch chwi erioed fyfyrio y modd y mae'r doethion a'r daionus yn ymdrechu â thlodi ac adfyd, ac yn cael eu gwawdio, ar yr un amser, o herwydd eu duwioldeb, ac hefyd yn cael eu herlid i farwolaeth boenus a gwaradwyddus-a chan bwy?-Gan ddiras gaeth-weision drygioni, a thraws-feilchion ddirmygwyr crefydd, y rhai a dreuliant eu dyddiau mewn hawddfyd parhâus, gan foddhâu pob chwant hŷd helaeth eithaf eu dymuniadau, a chan ddiystyru cyfreithiau Duw a dynion.-A ellwch chwi feddwl a chwyno o herwydd y camweddau hyn wrth Gyfiawnder

« ZurückWeiter »