Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

PREGETH XVII.* ·

AR RAGORIAETH Dyn.

A

GEN. i. 26.

Duw a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain.

God said, Let us make man in our image and in our likeness.

YN y dechreuad pan greodd yr Hollalluog

Nid

Dduw ddyn gyntaf, yr oedd efe yn berffaith fel goleuni yr holl greadigaeth a oedd o'i amgylch; ac yr oedd efe, hefyd, yn bur fel pelydr yr haul a oedd yn tywynnu arno. oedd dim twyll yn ei enau, o herwydd nad oedd dim pechod yn ei galon: ac, hefyd, nid oedd dim dichell ynddo, o herwydd nad oedd

* Y Bregeth_hon o bregethwyd er annog Cristianogion i gyd-ymrôi i gyfrannu yn haelionus at gadw a chynnal Ysgol rád er lleshad i'r tlodion a'r anghenus.

ganddo ddim i'w gadw yn guddiedig. Ond pan wrandawodd efe ar y Sarph gyfrwys ddichellgar, ac y syrthiodd o'i ddiniweidrwydd, y dyddiau hyfryd yma, gan ddiflannu a ddiflannasant. Pan syrthiodd efe (wedi ei hudo i fwytta ffrwyth y pren gwaharddedig) yn ysglyfaeth i'r pechod a ddygodd farwolaeth, a'i holl ofidiau, a'i drueni, i'r byd, ac a wnaeth iddo, hefyd, golli Gardd Eden, efe a geisiodd ffoi, gyd â braw a dychryn, fel na welai ei Greawdwr mo hono, ac a chwiliodd am ryw le i ymguddio gan gywilydd. Pan ydoedd ein rhïeni cyntaf wedi torri gorchymyn eu Creawdwr, pan oeddynt yn anghymmwys i sefyll ger bron eu Gwneuthurwr, hwy a ymguddiasant "o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysg pren"nau 'r ardd."

Gan i ddyn gael felly ei lygru a'i anurddo, fel ag yr ydoedd yn gweled ei hun yn amlwg, a'i yrru allan, hefyd, o hyfryd Ardd Eden, efe a roddodd, ac a adawodd anhyfryd etifeddiaeth ei lygredigaeth a'i anurddiad i'w blant a'i eppil. Yn lle 'r cyd-ymddiddaniad Dwyfol (pan fyddai yn rhodio, gyd â Duw) a oedd, o'r blaen yno, yn goleuo ei feddwl, ac yn rheoli ei ymarweddiad; anwybodaeth ydoedd, yn. awr, yn llwyddo ac yn cael yr oruchafiaeth, a chwantau llygredig yn cam-rëoli ei galon, Ofn,

anghrediniaeth, methiant, ac ammheuaeth ydoedd yn ymddangos yn hynod yn ei holl fuchedd a'i y marweddiad; ac efe a'i eppil a fwriwyd i ymdeithio ar hŷd glyn tywyll gwylofus y byd hwn, mewn tristwch, gofid, anwybodaeth, a thywyllwch.Ond hyfryd waith gwir-grefyddol, a gorchwyl caredig elusengar, ydyw i chwi ddarparu Ysgolion-rhâd i achub ei hiliogaeth truenus ac anghenus rhag dinystr, a gosod a sefydlu Athrawon ffyddlon, fel goleuadau disglair, ar hŷd ffyrdd tywyll y byd hwn, i ddwyn defaid colledig Tŷ Israel drachefn i'r gorlan. Cyd-ymrôi, o ran ewyllys da, a wnaethoch, i hyfforddi ac amgeleddu 'r plant tlodion a'r rhai anghenus, ac í gyd-gasglu a galw ynghyd yr amddifaid a'r anwybodus, i ddangos iddynt hwy y ffordd i'r Nefoedd. Yr ydych chwi, yn ran cariad, ufudd-dod i Dduw, ac ewyllys da i ddynion, wedi cyd-ymgyfarfod i off rwm un o'r aberthau mwyaf cymmeradwy gan yr Arglwydd, yr hwn y taer-weddiasoch arno drugarhâu wrthych, a maddeu i chwi eich pechodau, a throi ymaith lidiawgrwydd ei ddigter oddi wrthych chwi, a'r hwn, hefyd, yr ymbiliasoch arno ganiattâu ei fendithion i chwi: Yr ydych chwi, o ran cariad ac ewyllys da, wedi cydymgyfarfod er mwyn cadw a chynnal yr Ysgolrâd a ddarparwyd ac a sefydlwyd yn Yspryd y Grefydd wir-gristianogol: Ysgol-râd ydyw ag

sy 'n perthyn yn neillduol i'r raslawn Oruchwiliaeth a ddatguddiwyd o'r Nefoedd gan IESU GRIST, yr hwn "a ddaeth” oddi yno "i geisio "ac i gadw'r hyn a gollasid, i iachâu 'r drylliedig o galon, iollwng y rhai ysig mewn

[ocr errors]

66

rhydd-deb;" a'r hwn, hefyd, gan fod dynion yn druenus yn ymollwng dan bwys baich euogrwydd eu pechodau, a dychryn y gospedigaeth oedd deilwng iddynt; a chan na wyddent, y gallent gael maddeuant, gollyngdod, ac iachawdwriaeth i'w heneidiau; na phà fodd, i geisio hynny, a'r hwn (meddaf) a ddatguddiodd iddynt hwy y gobaith diddanus, y gallant (os byddant ffyddlon) gael dyfod i mewn i drigfannau 'r gwynfydedigion, ac a fynegodd, hefyd, iddynt hwy, fod llawenydd yn y Nef am un pechadur "a edifarhâo; mwy nag am oni un pum "ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid idd

[ocr errors]
[ocr errors]

ynt wrth edifeirwch." Ac os ydych chwi, wrth gyd-weithio mewn gwaith mor fuddiol a godidog-ragorol, yn cyd-weithio â Mab Duw, yr hwn, gan iddo wneuthur, trwy ei farwolaeth ei hun, gymmod ac iawn am y pechod dynystriol, a roddodd ac a adawodd ei Efengyl i'w ddilynwyr byth i'w tywys i fywyd tragywyddol ac os ydych chwi yn canfod ac yn deall, eich bod, wrth hyfforddi 'r tlodion a'r anghenus i fucheddu yn dduwiol ac yn ddaionus, ac wrth gyd-ymegnio i roddi iddynt hwy wyb

odaeth am yr etifeddiaeth wynfydedig, yn rhodio yn ei ffyrdd sancteiddiol Ef, fe ddylai hynny gynnhyrfu a bywhâu eich calonnau yn achos y trueiniaid anghenus, y rhai yr ydwyf fi, yn awr, drostynt hwy, yn eiriol arnoch chwi barhau i'w hyfforddio a'u hamgeleddu.

Os ydyw cynneddfau a galluoedd ddeallgar synhwyrol dyn, ac hefyd, ei dueddiadau a'i dymmerau goreu, y rhai sy 'n sylweddu 'r holl ddelw a'r llun y dichon efe debygu i'w Greawdwr, i fyned gyd ag ef i Dragywyddoldeb; ac os ydyw ei weithredoedd a'r ffrwythau o honynt hwy, y rhai sydd, pan fyddont yn gysson ac yn gyttun â Gair Duw, yn eglur-ddangos, ei fod yn debyg i Dâd yr Ysprydoedd; a'r rhai sydd, pan fyddont yn anghysson ac yn wrthwynebol i'r hyn a fynegodd ac a orchymynodd Duw, yn rhoddi prawf cadarn, iddo gael ei halogi a'i wenŵyno gan y ffrwyth gwaharddedig; os ydyw 'r gweithredoedd yma a'r ffrwythau o honynt hwy, i barhâu byth yn goffad wriaeth ddiddarfod o'r iawn-ddefnydd, neu o'r cam-ddefnydd, a wnelo efe o'r cynnysgaeddiadau a'r doniau yma, oni wna argrâffu 'r argyhoeddiad yma yn ddwfn, ar ei feddwl, wrth ddangos iddo, bod buchedd sanctaidd berffaith yn anigenach ac yn fuddiolach iddo ef, na buch edd aflan halogedig, oni wna argraffu 'r argy

« ZurückWeiter »