Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

yn ddaionus, yn ein nerthu i hâu mor helaeth erbyn y cynhauaf a fydd.-Ar fyrr eiriau, llawenhâwn, o herwydd fod i ni (os parhâwn yn ffyddlon) fywyd gwell yn y byd a ddaw, ac y cawn ni y gogoniant a ddatguddia Duw yn ôl hyn i'w ffyddlon blant :-y cawn ni fwynhâu 'r gwobrwyon gwerthfawr, â pha rai y corona Efe eu ffyddlondeb hwy, ac hefyd y goleuni rhagorach, y gwna Efe, y pryd hynny, eu dyrchafu hwy iddo. Y mae pob peth a'r sydd dda, yn dduwiol ac yn odidog, yn hardd, yn weddus ac yn ddymunol yn cynnhyrfu llawenydd duwiol. Y mae ufudd-dod i Ewyllys Duw, ac ymostyngiad i bob peth a'r a ordeinio, ncu a oddefo, neu a ganiattâo Efe i fod, yn cyd-weithio i'n gwneuthur ni i fod yn foddlon i'n cyflyrau presennol a dyfodadwy. Dyma Yspryd y Grefydd wir-gristianogol. Y mae ei holl athrawiaethau, ei holl orchymynion, a'i holl addewidion, yn dysgu i ni y wers hon: Ac â'r fath feddyliau y mae hi yn ysprydoli y rhai sydd yn ei phroffesu mewn gweithred a gwirionedd.

[ocr errors]

Ond pa le y mae yr Yspryd yma y Grefydd wir-gristianagol yn goruch-rëoli ac yn llywod raethu ? Pa le y mae Efe yn teyrnasu, yn cynnhyrfu, ac yn gweithio? Pa le y mae'r deml y mae Efe yn cartrefu ynddi, ac yn ymddangos ei fod yno? Sicr ydyw, mai nid y

lle nad oes dim hyder yn Nuw, na dim boddlonrwydd i'w oruchwiliaethau Ef: sicr ydyw, mai nid y lle y mae ei Bresennoldeb yn faich, ac y rhaid cymmell dyledswyddau gwir-grefyddolder: Sicr ydyw, mai nid y lle y mae cenfigen, casineb, digasedd, ac ymddïal ar ddynion, yn oeri, yn rhewi, yn terfysgu, ac yn chwerwi'r galon: Sicr ydyw, mai nid y lle y mae ofnau echryslawn, a ddychryndod caeth poenus dyfod ger bron yr Holl-drugarog Dduw, yn tywyllu 'r ddaear, ac yn cymmhylu 'r awyr, ac yn gorchuddio hardd ddrych y naturiaeth brydweddol â gwawr anhyfryd, megis gwawr ddilewyrch diffeithwch a fyddai yn llawn o anghenfilod gormesol: nid yno y mae Efe : ond Yspryd y ffydd fywiol, Yspryd y gwirgrefyddolder, Yspryd y cariad ffyddlon, ac Yspryd y llawenydd duwiol, ydyw Yspryd y Grefydd wir-gristianogol. Oddi wrth hyn, y gellwch yn sicr weled y lle y mae ei dyfroedd hi yn ei ffrwythloni, yn ei oruch-rëoli, ac yn ei lywodraethu, wrth oruch-reolaeth a llywodraeth y ffrydiau bywiol yma; a'r lle nad ydynt hwy yn ffrwythloni 'r ddyffrynoedd, ac yn brashâu 'r gwastadedd, nid rhyfedd fyddai pe na roddai Athrawiaethau 'r Grefydd wir-gristianogol yno, ond ychydig o oleuni, ac ychydig o lewyrch-pe byddai ei gorchymynion yn drymmion a phe na roddai ei haddewidion

na'r hyfrydwch, na'r gallu, na'r dedwyddwch, y cyfaddaswyd hwy i'w hysprydoli. Rhaid yn' gyntaf agor y galon i Yspryd y Grefydd wirgristianogol i ddyfod i mewn iddi, ac i weithio yn effeithiol ynddi, cyn y galler ei hamgyffred, ei hoffi, a chyd-ymffurfio â'i Hyspryd hi.

Os dylai ffydd fywiol, gwir-grefyddolder, cariad ffyddlon, a llawenydd duwiol gartrefu, teyrnasu, a dwyn ffrwythau da mewn un rhyw Ie, sicr ydyw, mai yn y galon, lle y cartrefa pob cynnhyrfiad i'w bywhâu ac i ddwyn ffrwyth ysprydol, y dylent hwy fod felly. Nyni a ddylem ollwng Yspryd y Grefydd wir-gristianogol, fel anadl y bywyd a roddodd yr Hollalluoġ, i ddyfod i mewn i'n calonnau i'n bywhâu ac i'n hysprydoliaethu ni oll. Os na arbedodd Duw ei briod Fab, ond a'i traddododd Ef trosom ni oll-Os bu Crist farw dros ein pechodau ni, ac os cyfododd Ef i'n cyfiawnhâu ni, o herwydd hynny, tra eglur ydyw, y dylai fod gennym ni ffydd fywiol a hyder disigl a dïysgog. Y mae ei farwolaeth Ef yn fywyd i ni; ac y mae ei adgyfodiad Ef yn wystl o'n hadgyfodiad ninnau. Fe ddylai'r cynhyrfiadau yma weithio yn effeithiol ynom ni. Gan fod i ni gymdeithas gyd â'r Tâd, a chyd â'r Mab; gan ein bod yn cael neshâu atto, fel plant iddo Ef; gan ein bod yn cael y fraint o

Q q

[ocr errors]

ymrôi o newydd i'w wasanaethu Ef i ddyhuddo ein hunain a'r sicrwydd a roddodd, y cawn ni (os byddwn ffyddlon) drugaredd ganddo Ef;a chan ei fod yn rhoddi i ni allu i deimlo, ein bod yn agosach atto, ac yn ei ŵydd a cher ei fron Ef; pwy, yn y fath gyflwr, a eill fod heb ddim gwir-grefyddolder ynddo? Yma y mae pob peth yn ein hannog i dduwiol-lawenhâu, o herwydd ein bod yn ́ gwybod yn sicr, bod Duw yn Dâd i ni :—-bod Jesu yn Iachawdwr ac yn Arweinydd i ni :— y byddwn ni yn anfarwol:-bod gwaredigaeth rhag gallu pechod, a rhag llywodraeth angeu, wedi ei darparu i ni :- -ein bod ni yn rhodio yng ngolwg goruch-olygiad Doethineb perffaith, da ei ewyllys i ni, wrth ymdeithio yn y byd hwn,a wnawn ni ddim Ilawenhâu o herwydd hynny? Bydded i ni fod yn llawen ac yn hyfryd: bydded i ni agor, hyd yn oed, y lleoedd dirgelaf a'r y sydd o fewn ein calonnau, i Yspryd y ffrwythau y sydd yn cartrefu yng nghalonnau y rhai cyfiawn. -i Yspryd y ffydd fywiol, i Yspryd y gwirgrefyddolder, i Yspryd y cariad ffyddlon, ac i Yspryd y llawenydd duwiol! Darparwn yno drigfa a theml i'r Yspryd hwn: a boed i'w allu a'i effaith cadarn-nerthol ynom ni gyhoeddddangos, mai yno, lle y mae Yspryd y Grefydd wir-gristianogol yn goruch-rëoli ac yn llywod

raethu, y mae "Cariad, llawenydd, tangnef"edd, hîr-ymaros, cymmwynasgarwch, daioni, " ffydd, addfwynder, ddirwest," yn goruch rëoli, ac hefyd yn teyrnasu. Amen.

« ZurückWeiter »