Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

PREGETH XVI.

AR FFRWYTHAU YR YSPRYD.

GAL. V. 22.

Ffrwyth yr Yspryd yw, Cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, cymmwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest. j

The fruit of the Spirit is Love, joy, peace, longsuffering, gentleness, goodness, faith, meekness, temperance.

[ocr errors]

BETH

ETH ydyw 'r Yspryd y sydd mor gyfoethog o ffrwythau? Beth ydyw 'r gallu y sydd yn gweithio mor nerthol i ddiwygio a gwellhâu 'r byd, ac ym mha fodd yr ydys yn amlygu hynny? O ba le y mae y gwir-rinweddau gweledig anwadadwy, y sydd ynddo, i wneuthur dynol-ryw yn well-well, ac yn ddedwyddach-ddedwyddach? Beth ydyw 'r egwyddorion a'r ddibenion y sydd yn gwneuthur y Grefydd wir-gristianogol yn rhagor

[ocr errors]
[ocr errors]

ach, nag un grefydd arall? At ba ddiben y mae ei hathrawiaethau, ei rheolau, ei haddewidion, a'i rhybuddion yn amlwg yn cyfeirio? Beth ydyw 'r ffynnon honno o fywyd ysprydol o fywiogrwydd hyfryd, yr hon y mae ei dyfroedd bywiol yn ffrwythloni pa le bynnag y dylifont? Beth ydyw 'r ffrwyth, y sydd, fel aur o'r ffwrnes, yn parhâu gwedi tynnu ymaith holl sorod ac ammhuredd y defodau allanol a'r opiniynau gwrthddadleuol? -Beth ydyw 'r Yspryd caredig y sydd yn ddiwallu holl ffyddlon addolwyr Duw o ba gymdeithas wir-grefyddol bynnag y bont, â'r un cŷd-ysprydoliaeth, ag sydd, ynddynt hwy, yn dwyn ac yn maethu gwell meddyliau a buddiolach bwriadau, cariad at Dduwioldeb a daioni, a thangnefedd y meddwl y sydd yn perthyn mor briodol iddynt hwy?

Mewn perthynas i un rhyw grefydd, a'r a dybir neu a honnir ei bod o Dduw, i weled a ydyw 'r grefydd honno felly mewn gwirionedd, angenrheidiol ydyw ei phrofi hi, wrth gydnabyddus Briodoliaethau 'r GORUCHAF, yr hwn yw Awdwr pob gwirionedd. Ysprydoliaeth yr Hollalluog a gynnhyrfa ac a nerthol-weithia ar ei waith Ef: ac o herwydd hynny, yr athrawiaethau, y rhai sydd yn weddus ac yn fuddiol i ddynion, i ymfucheddu wrthynt, sy 'n ymddangos yn egluraf eu bod o Dduw, sef, y rhia

sydd yn naturiol yn cyfeirio i gyflawn-berffeithio ein naturiaeth ni. Er mai gwrthddrychion ffydd ydyw 'r arddangosiadau godîdoccaf a'r rhagoraf, y rhai sydd yn amlygu trefn rheolaeth Duw wrth lywodraethu ei greaduriaid, ac sydd yn datguddio gofyniadau arswydus y Cyfiawnder tragywyddol, neu yn eglurhâu dirgeledig Ysprydoliaeth yr Hollalluog i ni: etto gan fod y rheolau y sydd yn ddyledus arnom eu cadw, yn dysgu i ni y dyledswyddau y sydd yn ddyledus arnom eu cyflawni; megis y deuant yn gyflawn i feddwl a gwybodaeth pob dyn, felly y maent hwy fel y geill pob un eu dëall. Megis y gallwn deimlo effaith yr haul; felly y gallwn, wrth reswm, o bellder dirfawr, ganfod ffrydiadau 'r gwirionedd perffaith ond yr ydym ni yn rhy belli gywir-farnu am allu naturiol y naill a'r llall o honynt. Yr ydym yn teimlo ac yn gweled goleuni 'r haul, ond gallwn fod mewn cyfyng gyngor wrth ymofyn am yr achosion o hono. Gallwn, gyd â gwylder a pharchus ofu, weled goleuni Priodoliaethau Duw ond nis gallwn yn gyflawn amgyffred, pa mor berffaith ydynt; nis gallwn yn berffeith-gwbl ddangos, beth yw eu graddau, na gwneuthur gwahaniaeth rhwng eu perffeithrwydd. Fel lliwiau 'r enfys, y rhai sydd yn llawn goleuni prydferth, ond y maent mor gyd-gymmysgedig â'u gilydd, fel y mae eu graddiadau yn anghraffadwy, a'u heithafoedd yn ansefydledig.

[ocr errors]

Dyma'r godidog ragoriaeth digyffelyb y sydd gan Yspryd y Grefydd wir-gristianogol ar Yspryd pob crefydd arall. Y mae Efe yn adnewyddu ein naturiaeth ni-yn ein gwneuthur yn greaduriaid newyddion yn ddynion duwiol daionus; y mae ganddo Ef gariad dirfawr anfeidrol i ni, a diben rhagorol gogoneddus; y mae Efe yn rhoddi i ni fuddugoliaeth ar ein holl wyniau a'n chwantau pechadurus ; dyma'r breintiau a'r doniau ardderchog cynnwys-fawr a wnant i ni synnu a rhyfeddu o'u herwydd. Y mae 'r Yspryd gwir-gristianogol yn caru holl ddynol-ryw; y mae Efe yn Dâd ac yn Amddiffynnwr i'r rhai gorthrymmedig, ond nid ydyw Efe un amser fel ffrewyll iddynt hwy. Yn lle taenu difrod, dinystr, a dychryndod ar y ddaear, y mae Efe yn agoryd ei law, ac yn diwallu pob peth byw â daioni. Nid ydyw Efe un amser yn dwyn y plentyn oddi ar ei fam, nac ychwaith yn trywanu ei gleddyf yng nghalon ei dâd: ond y mae Efe yn caru yr ymddifad, ac yn amddiffyn ac yn dadleu dros y weddw. Gwelwch gyd â pha orfoledd creulon, y mae'r concwerwr balch yn llusgo ag olwynion ei gerbyd y rhai mawrion a'r cedyrn gorchfygedig, a ddifreiniwyd o'u mawredd, o'u cadernid, ac o'u gallu, ac sydd yn cael byw i borthi creulon falchder y rhai trawsion taeog rhyfygus, ac hefyd i fod yn fwy-fwy truenus.

في

Yna trowch eich hwynebau, a gwelwch orfoledd gogoneddusach Gwaredwr dynol-ryw yn marchogaeth yn addfwyn tu a'r ddinas sanctaidd, ynghanol llawen-floeddiadau y nifer dirfawr o ddynion, y rhai a brofasent ei drugaredd, a'r rhai y cynnhyrfasai Efe eu calonnau i orfoleddu, o herwydd newyddion llawen yr Iachawdwriaeth. Clywch y deillion, y rhai a ad-roddasai Efe iddynt eu golwgy meirw, y rhai a fad-fy whasai Efe-a'r eneidiau gwynfydedig, y rhai a achubasai Efe rhag marwolaeth dragywyddol, clywch hwy (meddaf) yn croch-lefain," Hosan"na yn y goruchafion."

Prophwydi 'r Hên Destament yn dra ysprydol a rag-fynegasant ac a ddarluniasant rinweddau a dibennion teyrnasiad y Messiah, er lleshâd i ddynol-ryw; ac yn enwedig, ei awdurdod a'i allu i roddi ymwared i ddynol-ryw o'u trueni, ac i daenu, ymhlith pob grâdd a math o bobl, y goleuni a'r gwybodaeth y mae gwiz freintiau a dedwyddwch dynion yn sefyll arnynt. "Yna" (medd Esaiah) yr agorir llygaid y deillion, "a chlustiau 'r byddarion a agorir:

66.

66

66

yna y llamma 'r cloff fel hŷdd, ac y cân tafod "y mudan; a'r dynion tlodion a ymhyfrydant “yn SANCT Israel." Ac yn ganlynol, dyma Yspryd ac Ysprydoliaeth y Grefydd wir-gristianogol. Dyma Yspryd y Cariad a ymrodd i

« ZurückWeiter »