Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

ynghanol dychryn a syndod: er i'r cymhylau amlhâu, ac i'r ystorm ruthro ar fy mhen poenús i, a gorchuddio fy llestr nychlyd yn y môr tymmhestlog, a'm gadael heb gymmaint ag un ystyllen i ymdrechu â'r tonnau: etto yr haul, gyd â llewyrch annisgwyliedig, a dywynnodd arnaf fi ynghanol y dinystr hollawl hwn o'm gobaith: Yr. Hollalluog Dduw a estynodd ei Fraich attaf, a drugarhâodd wrthyf, ac a sychodd ymaith fy nagrau; canys Efe a orchymynodd i'm plentyn fyw.

[ocr errors]

Acer bod fy llawenydd i, yn awr, yn an nhraethadwy: er nad eill geiriau gyflawn-ddarJunio, pa mor foddlon ydwyf, nac oesoedd ychwaith fod yn ddigon i ddangos pa mor ddiolchgar, yr ydwyf yn cydnabod y dyled sydd arnaf fi; etto onid oes gan laweroedd o honoch chwi fwy o achos i ymlawenhâu, i fod yn foddlon, ac i gydnabod yn ddiolchgar, y dyled sy da arnoch chwithau i Dduw a dynion? Ni châdd llaweroedd o honoch chwi erioed y fath achos galarus i wylo mewn gofidiau, ag y gefais iy mae llaweroedd o honoch chwi, o hŷd yn cael mwynhau y cyfeillion, yr ydych yn eu caru: ymac Haweroedd o honoch chwi a'ch plant gennych; a'u bryd ar fyw yn dduwiol, yn ufudd ac yn ostyngedig. Ond a ddangosodd yr Arglwydd lai trugaredd i chwi, o herwydd iddo

roddi 'r bendithion hyn yn ddidor i chwi? Onid ydoedd Efe yn gwybod dymuniadau eich calonnau, ac oni wnaeth Efe eu caniattâu hwy? Chwi a ofynnasoch am fendithion y bywyd hwn, a chwi a'u cawsoch! Chwi a ofynnasoch am blant, ac y maent hwy, fel planhigion olewydd, o amgylch eich bord! Chwi a ofynnasoch am gyfeillion, ac y maent hwy gennych!

Chwi

a ofynnasoch am hir ddyddiau, a Duw a ganiat tâodd eich gweddiau!

A ydyw 'r haul, gan hynny, yn parhâu i dywynnu arnoch chwi, a gwlith y Nefoedd yn cyfoethogi eich meusydd, ac a wnaethoch chwi ddim erioed etto adnabod ac edrych i fynu ar y Ilaw, sydd yn eich bendithio? A ydyw eich pennau chwi wedi gwynnu neu fritho gan henaint, a ydyw eich cefnau yn crymmu, a'ch`gliniau yn gweggian gan hîr flynyddoedd, ac a wnaethoch chwi ddim erioed etto drefnu eich tŷ, ymbarottoi, ac ymgymmodi â Duw? A ydyw eich calonnau yn gorfoleddu, o herwydd bod eich plant a'ch hwyrion yn serchog ac yn garedig, ac a wnaethoch chwi ddim esgeuluso dyfod at yr Allor, a chyflwyno'r rhoddion gwerthfawr yma i'r Arglwydd wrth ei fwrdd? A roddwyd gwybodaeth i chwi o lyfr y Nefoedd a naturiaeth, a agorwyd drysau 'r deml i chwi, aga gawsochi chwi yn fynych yn ddifrif-ddwys

eich gwahodd a'ch cymmell gan Drugaredd, ac a ydych chwi, o hŷd, yn dewis myned i'ch meusydd a'ch mâsnach, o flaen dyfod i ymgymmodi â Duw? A wna parhâus belydr Trugaredd ddim byth feirioli rhewedig galon y rhai an-ystyriol a'r annïolchgar ? A gaiff amyneddgar, dïanwadal, a diflinedig Ddaioni ddim byth mo'r fuddugoliaeth ar ddrygioni? A wnewch chwi, er cywilydd a dinystr i chwi eich hunain a'ch tylwyth, oedi mís etto? A wnewch chwi, o hŷd, ddifa ffrwythau 'r ddaear, heb gydnabod y dyled sydd arnoch, ac heb wir-adnabod a pharchu 'r llaw sydd yn eich porthi? A wnewch chwi, o hyd, groen yr Ethiopiad yn dduach-ach? A wnewch chwi yn annuwiol anffurfio Delw Duw fwy-fwy? A ommeddwch chwi ddyfod at Dduw dros ryw yspaid etto, fel y teyrnaso pechod ynoch chwi ?—Ymaith, ïe, ymaith â ffoledd. Yn ddïoed diwreiddiwch bob annuwioldeb, ac ymadewch â phob drygioni. ac yn awyddus dilynwch ddaioni:--Y mae hi yn bryd, bellach, i well a theccach dyddiau wawrio. Yfwch heddyw o Ffynnon y bywyd a'r goleuni. O! mor annoeth ac ansynhwyrol ydyw oedi, nes y byddoch yn nychu ar wely angeu! O! mor annoeth ac ansynhwyrol ydyw dïystyru ac esgeuluso dyledswyddau Crefydd, nes y byddoch yn rhewi yn oer naws ymddattodiad;nes prin y gellir eich

[ocr errors]

cyfrif yn nifer y rhai byw!--Onid ydyw "pawb a'r y sydd yma yn gydrychiol," ag sy 'n bwriadu bucheddu yn wir-dduwiol, yn wirgrefyddol ac yn ddefosiynol, wedi cael eu gwahodd heddyw i gymmeryd Swpper yr Arglwydd; ac oni attolygwyd "i'wch er cariad ar yr Arglwydd Jesu Grist," beidio gwrthod "dyfod iddo, gan eich bod mor garedigol wedi "eich galw a'ch gwahodd gan Dduw ei hunan "Chwi a wyddoch mor ofidus, ac mor anghar edig o beth yw, pan fo gwr wedi arlwyo "gwlêdd werthfawr, wedi trwsio ei fwrdd â phob rhyw arlwy, megis na bai dim yn eisiau, "ond y gwahoddedigion i eistedd:"Gan hynny; "gwiliwch yn dda, rhag i chwi annog Hlid Duw i'ch erbyn."

[ocr errors]
[ocr errors][ocr errors]

PREGETH XV.

AR DRIGFANNAU 'R GWYNFYDEDIGION.

JOAN XIV. 2.

Yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfannau : a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i barottoi lle i chwi.

In my Father's house are many mansions: if it were not so, I would have told you: 1 go to prepare a place for you.

PAN ydoedd Jesu Grist ar ymadael â'i ddis

gyblion, ô! mor gynhyrfiol a charedig yr ydoedd Efe yn ymddiddan â hwynt-hwy! mor dirion yr ydoedd Efe yn eu diddanu hwy ac mor ofalus yr ydoedd Efe yn ymrôi i gysuro ac i wneuthur y ffyddloniaid yn ddedwydd! mor fuddiol ydyw 'r darluniad a roddodd Efe o'r gwynfydedigrwydd a oedd ac sydd ynghadw iddynt hwy yn nhrigfannau eu Tâd nefol! * Yn nhŷ fy Nhad" (medd Efe) "y mae llawer

« ZurückWeiter »