Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

anghrediniol ac yn anhyderus o honynt eu hunain, yn ofni ychwanegu eu heuogrwydd a thrymhâu eu beiau, trwy ad-gwympo i bechod; y mae y rhai hynny etto heb ddysgu ac heb ddeall trwy brofiad hyfryd, bod ymgrymmu yn wir-edifeiriol ger bron yr Arglwydd wrth ei Ford, gyd â "ffydd fywiol yn Nhrugaredd "Dduw trwy Grist, gyd â dïolchus gof am ei

angeu Ef," a chyd a Chariad perffaith i bob dyn, bod hynny (meddaf) yn llesol, yn gysurus, ac yn ddiddanus nad ydyw ei Orchymynion Ef, mwyach yn drymmion-bod Jau Crist yn myned yn esmwythach-esmwythach a bod baich ei Grefydd Ef yn prifio yn ysgafnach-ysgafnach. Pe cymmharech dros funudyn yrfa buchedd aflan ddrygionus-Y galon yr ydych yn ofni edrych oddi fewn iddi

y dychryn rhag dialedd Braich Duw. Pe cymmharech hynny (meddaf) a chydwybod ddirwystr tu ag at Dduw a dynion, yn wastadol, ni ofnech liosogi eich pechodau trwy gymmuno yn annheilwng. Dyma 'r Ordinhâd ddifrifafddwysaf o Ordinhâdau crefydd-a'i diben ydyw eich nerthu a'ch cadarnhâu chwi yn erbyn tra ystrywgar a dichellgar ruthriadau temptasiyn

au,

Pob tro yr ad-gymmunoch yn ffyddlon, yn gymmwys, ac yn ddyladwy, chwi a ddeallwch fod eich hanian a'ch tuedd-fryd yn gwellhâu er lleied a gwanned fyddo 'r hedyn ar y

cyntaf: er mor amlwg fyddo i'r rhew oer, neu i'r gwrês poeth; etto yr hâd da a wreiddia: a chwi a gewch y boddlonrwydd o'i weled ef yn blaguro, yn blodeuo, ac yn dwyn ffrwyth, cynnyrch mawr helaeth. Yr unig blanhigyn hwnnw, sef, bwriad di-ysgog sicr i arwain a dilyn buchedd newydd, wedi ei faethu a'i amgeleddu trwy gymmuno yn fynych, a faetha 'r holl ddyledswyddau crefyddol eraill.

PREGETH XI.

AR Y GERYDD A RODDODD ST. PAUL I'R CORINTHIAID.

1 COR. XI. 29.

Yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun; am nad yw yn iawn-farnu Corph yr Arglwydd.

He that eateth and drinketh unworthily, eateth and drinketh damnation to himself; not considering the Lord's Body.

AR y geiriau yma yr ydys yn seilio y rhyb

uddion a roddir er hyfforddiad yn y Cyngor sydd yng wasanaeth y Cymmun, "Y sawl sydd

[ocr errors]

yn meddwl dyfod i fendigedig Gymmun Corph "a Gwaed ein Iachawdwr Crist, rhaid i chwi ་ ystyried y modd y mae St. Paul yn cynghori pawb i'w profi ac i'w holi eu hunain yn ddyf

"

al, cyn iddynt ryfygu bwytta o'r bara hwnnw, "ac yfed o'r cwppan hwnnw. Canys, fel y "mae'r llês yn fawr, os â chalon wir edifeiriol,

1

ac â bywiol ffydd, y cymmerwn y sacrament "bendigedig hwnnw (canys yna yr ym yn ys"prydol yn bwytta Cig Crist, ac yn yfed ei "Waed Ef; yna yr ydym yn trigo yng Nghrist, "a Christ ynnom ninnau: yr ym ni yn un â Christ, a Christ â ninnau) felly y mae 'r perygl yn fawr, os ni a'i cymmerwn yn annheilwng. Canys yna yr ym ni yn euog o Gorph "a Gwaed Crist ein Iachawdwr yr ydym yn "bwytta ac yn yfed ein barnedigaeth ein hun

[ocr errors]

ain, heb ystyried Corph yr Arglwydd: yr "ydym yn ennyn digofaint Duw i'n herbyn; yr ym ni yn ei annog Ef i'n plâu ag amrafael "glefydau, ac amryw fath ar Angeu,

66

[ocr errors]

Gwnaeth yr arswyd a'r dychryn difrif-ddwys sefyll ger bron yr Arglwydd wrth ei fwrdd, a'r ofn o gymmuno yn annheilwng a gynhyrfwyd gan arswydus gyhoeddiad y cyngor a ddarllenais i chwi yr awr hon, yn ddïammau rwystro llawer cristion cymmwys a diragrith rhag dyfod i'r Ordinhâd hon, y bwysfawroccaf a'r anghenrheittiaf o Ordinhâdau Crefydd.

Os gallwn ganfod y cyfeiliornadau a'r beiau y syrthiasai 'r Corinthiaid iddynt, wrth gymmeryd Swpper yr Arglwydd, nyni a allwn, yn fwy hwylus, amgyffred a deall meddwl y geiriau cedyrn a barnedigol yma a 'sgrifennodd St. Paul;

[ocr errors]

"Yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth "iddo ei hun; am nad yw yn iawn-farnu Corph " yr Arglwydd." A chan fod y cyngor a ddarllenais i ållan o wasanaeth ein Cymmun ni, yn cael ei seilio ar y geiriau yma, pa beth bynnag a eglurhâ eiriau 'r testun, hynny hefyd a eglurhâ'r geiriau a seiliwyd arnynt.

thiaid

Ni ysgrifennwyd mo'r geiriau brawychus yma at gristianogion yn gyffredinol, ond at y Corinyn neillduol, ac o herwydd achosion neillduol; a chan mai yn y bennod hon yn unig y gwelwn ni hwy, priodol gyfeiliornadau a beiau y dynion yr ysgrifennwyd hwy attynt, a eglurhâ oreu eu meddwl a'u hystyr.

Dinas gyfoethog, loddestgar a moethus oedd Corinth yn nhîr Groeg; ac yr oedd hi yn hynod o herwydd nifer ei throedigion at y Grefydd gristianogol, ac o herwydd afrëolaeth ei thrigolion yn eu bucheddau. Yn y Ddinas hon y treuliasai St. Paul ddwy flynedd, yn sefydlu Eglwys gristianogol, yn yr hon yr ydoedd, fel yn y rhan fwyaf o'r Eglwysi eraill, droedigion Juddewaidd a Groegaidd yn gymmysgedig â'u gilydd. Ond gan iddo ef fod yn absennol oddi wrthynt o ddeutu tair blynedd, yr oeddynt hwy wedi eu gorllenwi ag annhrefniadau mawrion

« ZurückWeiter »