Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

o ffynhonnau o lawenydd, ac a wnawn ni ddim. ofni ger ei fron Ef, ac erchi i bob meddwl annuwiol a'r holl nwydau afrëolus fod yn llonydd? A ydym ni yn perchi presennoldob ein cyd-greaduriaid, ac yn anrhydeddu mawrhydi tywysogion; ac oni wna Mawrhydi Duw grynhôi, rhëoli, ac ysprydoli pob meddwl addas, a deffroi pob serch cymmwys? A ddeuwn ni ddim ger ei fron Ef mewn gweddi a diolch? A wnawn ni ddim ollwng allan wenfflam y duwiolfryd sy'n llosgi o'n mewn ni?. neu a all neb feddwl, mai peth anfoddlongar i. Dduw 'r Cariad, neu anghymmwys i anrhydedd dyn ydyw, ychwanegu a phorthi 'r wenfflam hon trwy wir-edifeirwch a diolchgarwch? Gwybod ac ymlawenhâu yr ydym yn yr wybodaeth, nad oes gan yr hwn a wrendy ein gweddiau ni, ddim o ofer rwysg tywysog dwyreiniol, i ni ddyfod yn unig ger ei fron Ef gyd ag ymgrymmiadau dïystyr a dïobaith. Rhyfygu nid ydym roddi gwybodaeth i'r Holl-allwog trwy ein gweddiau, na'i gynhyrfụ ychwaith trwy ein taerni. Nis dichon ein gweddiau roi gwybodaeth i'r Tragywyddol Dduw, na'i gyfnewid Ef:-Ond etto hwy a allant ein ffrwyno, ein gwellhâu, a'n diddanu ni-Greaduriaid a gynnysgaeddwyd â synwyr ac â rheswm, trwy fyfyrio ac ymgynnefino â'i berffeithrwydd Ef: y maent yn gwneuthur ein hymsyniad o'i bresennoldeb yn ddyfnach ac yn effeithiolach. Gwirgydnabod y presennoldeb hwnnw yn feunyddiol

trwy erfynion cyfeiriol o'n calonnau, ac felly ymgynnefino â'r perffeithrwydd hwnnw, trwy ei wneuthur yn arferol wrthddrych ein haddoliad, ni ddichon hynny fethu sancteiddio a dyrchafu ein meddyliau, gan ei fod yn ennyn yn ein calonnau y teimladrwydd brwdfrydig o gariad Duw, a chan ei fod yn ein nerthol-gynhyrfu i fod yn debyg i'r Duw hwnnw, yr hwn a addolwn ni. Y mae Gweddi, yn ei heffeithiau hanfodol, yn cynnwys ffydd ddïysgog yn addewidion Duw, Ymfoddlonrwydd yn ei lywodraeth Ef, a gobaith sicr a diogel yn ei ddaioni.—Oni raid, wrth hynny, i'r fath effeithiau ddwyn esmwythder a llawenydd? Ac oni raid iddynt hwy, yn naturiol addfwynhâu 'r tymher, a chynnyddu gwir ddechreuad daioni yn yr enaid? Oni raid i'r mynych gydnabyddiaethau o'n hymddibyniad, o'n hymddarostyngiad, o'n rhwymedigaethau, a'n herfynion difrif a dyfal ar Dduw am bob peth a'r sydd arnom eu heisiau, dueddu yn ganlynol i'n gwneuthur ni yn greaduriaid diolchgar, ufudd a gostyngedig? Os gwelodd y Goruchaf Rëolwr hefyd yn dda, i'r dibenion yma, a rhai rhagorol eraill, orchymyn y fath gydnabyddiaethau, a'r fath erfynion, fel y gallem ni gael trugaredd a chymmeradwyaeth ganddo Ef, a wnawn ni, farwolion anghraff ein golwg, ryfygu ceisio addysgu 'r Doethineb a'n crëodd ni?

Ti, yr hwn a wrandewi ein gweddiau! Awdwr a cheidwad ein bywyd, ein gobaith, a'n hiechawdwriaeth yr hwn a'n dygaist ni i'r byd yma, dy greadigaeth Di; ac a'n prynaist i gael etifeddiaeth yn y Nefoedd; gyd â pharch yr ydym yn cydnabod dy Holl-alluogrwydd, a chyd â dïolch dy Dadol ddaioni: gyd ag ofn a chariad a llawenydd yr ym yn ymgrymmu ger dy fron Di. Gan ein bod yn cael ein cynhyrfu felly, yr ym yn dyrchafu ein llef attat Ti, yr hwn wyt yn eistedd ar yr orseddfaingc yn y Nefoedd, ac wedi 'th wisgo â'r goleuni, nad all un llygad dynol edrych arno. Ond er bod dy Ogoniant yn anchwiliadwy, nad allwn mo'th weled Di mégis ag yr ydwyt; etto nyni a allwn, oddi wrth dy ddelw Di, a ddarlunir yn dy air, ac a adlunir gan dy weithredoedd, ganfod dy fod yn fawr, ac yn gyfiawn, ac yn sanctaidd, yn oes oesoedd-Sancteiddier dy Enw. Gan dy fod Di dy hun yn Sanctaidd, yr wyt Ti yn gofyn Sancteiddrwydd ynghalonnau dy addolwyr, ac i'r gwefusau a draethant dy Enw Sanctaidd fod yn ddi-dwyll, ac yn lân oddi wrth aflendid: lliosog anneirif fyddo nifer y rhai a offrymmant i'th enw arogldarth pûr yr Aberth Sanctaidd yma: ac O! na chlywid hefyd ein llef ymhlith y rhai a'th addolant Di felly cerydda a darostwng ein heneidiau i fod yn weddaidd ac yn ostyngedig ger dy fron Di; canys nyni a fuom yn elynion; nyni a

wrthryfelasom yn dy erbyn Di; nyni a wrandawsom ar brofedigaethau, ac a gawsom ein hudo; a phe na buasai dy drugareddau Di mor anfeidrol, ag ydyw ein troseddiaddau ni yn llïosog, nyni a fuasem, er ystalm, yn annheilwng o gael ein galw yn blant i Ti.-Deued dy Deyrnas, pan gydnabydder dy grefydd Di mor ollgyffredinol, ag ydyw yn ei rhagoriaeth heb ei bath. Y mae ein tadau ni, y rhai a fuant feirw ynot Ti, yn amgylchynu dy orsedd-faingc, gyd â moliant dibaid ac ufudd-dod perffaith-gyflawn. O na cheid y fath ffyddlondeb ar y ddaear, ag y sydd yn y Nefoedd!-Yn y cyflwr darfodadwy yma, yr ym yr hyderu, y gwnai Di, yr hwn a roddaist fywyd i ni, roddi i ni hefyd y cyfryw bethau ag y sydd yn anghenrheidiol i'w gynnaliaeth. Ceisio bara beunyddiol yn unig yr ydym, i ddiwallu ein diffygion beunyddiol. Ond O! na âd mo honom ni heb y bara hwnnw, yr hwn sy'n dyfod i wared o'r Nef. Bydded cyfoeth a gallu yn ddirwystr yn eiddo y rhai y digwyddant i'w rhan bydded ein trysorau ni yn y Nef, a llewyrch dy wynebpryd a chroesaw dy gymmeradwyaeth a fyddo ein huchel-gais ni. Ond och! pa fodd y gallwn obeithio cael ein cyfiawnhâu, pan y'n barner! A oddef ein calonnau ni olygiad dy olwg Di! Ond y mae trugaredd gyd â Thi!-daliwn, gan hynny, afael dïogel a sicr yn yr angor yma ein gobaith: bydd drugar

og wrth yr hyn nad yw wrth dy fôdd, a maddeu 'r hyn y rhaid i Ti fod yn anfoddlon iddo. Yna bydded i'n bucheddau ddwyn tystiolaeth i ddiolchgarwch ein Calonnau: a bydded i'n diolchus gydnabyddiaeth na's gall mo'th gyrhaedd Di, lifeirio ar ein cyd-greaduriaid. Mor gyfiawn ydyw, i ni ddangos iddynt hwy, y drugaredd a geisiwn ni ein hunain, a'r maddeuant a deimlwn y sydd arnom ei eisiau ! Yr ym ni, gan hynny, o'n calonnau yn noeth ac yn ddidwyll ger dy fron Di, yn maddeu i bob un o'r rhai a wnaethant, mewn gair neu weithred, yn wybodus neu yn anwybodus, ein digio neu niweid i ni: yr ym yn ymroi i fod yn heddychlon a pheidio ymddial, na bod yn ddig wrth neb. Ac yr ym yn dra difrif a dyfal yn gweddio, a'r i'r ymsyniad o'th anfeidrol Gariad ennyn yn ein calonnau wenfflam diolchgarwch i Ti, yr hon na ddichon dim amser mo'i diffodd: a chariad perffaith, yr hwn na ddichon dim cythruddiadau mo'i orchfygu--y fath gariad perffaith a fyddo yn fyw yn ein calonnau, ac a ysprydolo ein gweithredoedd. Yn amser perygl, O Dduw, yr hwn a wrandewi weddi! bydd yn agos attom ni i'n gwaredu rhag drwg; canys yr wyt Ti yn cofio mai llwch ydym ni. Na âd i ofidiau 'r bywyd yma, sef, y moddion prawf a'n profant yn y byd hwn, mo'n gorchfygu ni: cryfhâ ein ffydd pan y byddom yn methu: pan fyddom yn soddi

« ZurückWeiter »